Barddoniaeth

  • Etifeddiaeth gan Gerallt Lloyd Owen

    Fel cynifer o gerddi Gerallt Lloyd Owen mae hon yn ymdrin â Chymru a Chymreictod. Mae'r bardd yn trafod pwysigrwydd tir, hanes ac iaith i unrhyw genedl, a’r bygythiadau sy’n eu hwynebu yng Nghymru.

  • Ofn gan Hywel Griffiths

    Mae Hywel Griffiths yn sôn am y codi ofn y mae cyfryngau modern yn gallu ei greu drwy eu hadroddiadau newyddion a’u herthyglau papur newydd gan felly wthio pobl i aros yn “ddiogel” yn eu cartrefi.

  • Y Coed gan Gwenallt

    Yn y canllaw hwn byddi di’n dysgu am ‘Y Coed’ gan Gwenallt. Mae’n gerdd sy’n condemnio dynoliaeth a’i awydd i ryfela. Mae’n edrych ar themâu, nodweddion arddull a neges.

  • Walkers' Wood gan Myrddin ap Dafydd

    Rydym yn byw mewn gwlad brydferth dros ben ac mae’r prydferthwch hwn yn denu twristiaid lu. Trafod dylanwad twristiaeth ar ein gwlad a’n hiaith a wna Myrddin ap Dafydd yn y gerdd hon.

  • Tai Unnos gan Iwan Llwyd

    Mae'r gerdd hon yn archwilio’r broblem oesol o ddigartrefedd. Gan edrych ar y gorffennol a’r presennol mae’n amlinellu difrifoldeb y sefyllfa.

  • Rhaid peidio dawnsio... gan Emyr Lewis

    Caerdydd yw prif gymeriad y gerdd hon gan Emyr Lewis sy’n ymdrin â thema amser. Mae’r bardd yn trafod sut mae amser yn rheoli ein bywydau a sut mae terfynau amser yn ein cadw rhag teimlo’n gwbl rydd.

  • Y Ferch wrth y Bar yng Nghlwb Ifor gan Rhys Iorwerth

    Dyma gerdd gyfoes sy’n sôn am brofiad gŵr ifanc yn gweld merch atyniadol iawn mewn clwb nos, sef Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd. Mae’n sôn am ei phryd a’i gwedd a’r effaith mae hi’n ei chael arno.

  • Gweld y Gorwel gan Aneirin Karadog

    Mae Aneirin Karadog yn fardd sy’n ymdrin â themâu cyfoes. Mae’n defnyddio ailadrodd i ddisgrifio undonedd bywyd person sy'n gaeth i gyffuriau yn ceisio adfer ei hun.

  • Eifionydd gan R Williams Parry

    Mae byd natur yn elfen bwysig ym marddoniaeth R Williams Parry. Yn y gerdd hon mae'r bardd yn defnyddio gwrthgyferbyniadau trawiadol a chyffelybiaethau i ddisgrifio harddwch a llonyddwch y Lôn Goed.

  • Y Sbectol Hud gan Mererid Hopwood

    Ymuna gyda Mererid Hopwood wrth iddi roi cipolwg i ni ar y byd drwy ffenest dychymyg. Mae’n ein hannog i ddefnyddio ein dychymyg i weld y byd drwy bâr o lygaid newydd, neu ‘sbectol hud’.

  • Cymharu dwy gerdd

    Yn yr arholiad bydd yn rhaid i ti gymharu cerdd rwyt ti wedi ei hastudio ag un nad wyt wedi ei hastudio. Bwriad y canllaw hwn yw dy helpu i fynd ati i ddadansoddi a thrafod y ddwy gerdd ochr yn ochr.

  • Nodweddion arddull

    Nodweddion arddull yw’r technegau mae’r bardd wedi eu defnyddio yn y gerdd. Mae’n bwysig deall y gwahaniaeth rhwng y nodweddion arddull er mwyn eu hadnabod a’u dyfynnu wrth ddadansoddi’r cerddi.

  • Y mesurau caeth

    Yma cei esboniad o’r gwahaniaeth rhwng y cerddi caeth a’r cerddi rhydd, a chei dy arwain drwy brif fesurau’r cerddi caeth bydd angen i ti eu dysgu.

  • Y mesurau rhydd

    Yn y canllaw hwn byddi'n dysgu am nodweddion y gwahanol fesurau rhydd, sef cerddi di-gynghanedd fel soned, mydr ac odl a cherdd benrydd.

Nofelau

  • Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros

    Stori Rowenna a Siôn, mam a mab, yw’r nofel hon. Rydym yn dilyn eu profiadau wrth iddyn nhw addasu i fywyd newydd yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau mawr sy’n newid cymdeithas yn llwyr.

  • O Ran gan Mererid Hopwood

    Nofel am ferch yn tyfu i fyny yng Nghaerdydd yn y 1970au yw O Ran. Angharad yw cannwyll llygad ei thad ac mae hi’n meddwl y byd ohono yntau, ond mae gan y ddau eu gofidiau sy’n bygwth chwalu eu byd.

  • Dim gan Dafydd Chilton

    Dau frawd yw Gwyn ac Owain sy’n dilyn llwybrau bywyd gwahanol – llwybr Cymreig a llwybr Prydeinig – sy’n selio’u tynged. Dwy stori yn un sy’n gofyn i ti feddwl am sut fywyd wnei di ei ddewis yw Dim.

  • Diffodd y Sêr gan Haf Llewelyn

    Hanes teulu y bardd Hedd Wyn yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yw Diffodd y Sêr. Mae ei deulu a’i ffrindiau yn gymeriadau gwahanol iawn sy’n delio ag effaith y rhyfel mewn ffyrdd gwahanol iawn.

  • Ac Yna Clywodd Sŵn y Môr gan Alun Jones

    Mae'r nofel hon yn trafod themâu megis rhagrith a gwrthdaro. Mae Meredydd Parri wedi ei gael yn ddieuog o dreisio a Richard Jones ar drywydd y diemwntau wnaeth eu dwyn bum mlynedd yn ôl.

  • Bachgen yn y Môr gan Morris Gleitzman

    Mae Jamal a'i deulu yn dianc o Afghanistan ac yn ffoi i ben draw'r byd. Mae stori Bachgen yn y Môr yn cael ei dweud yn y person cyntaf ac mae'r iaith ynddi'n creu cyffro, tensiwn ac awyrgylch.

  • I Ble'r Aeth Haul y Bore? gan Eirug Wyn

    Mae'r nofel hon wedi ei seilio ar hanes Taith Fawr y Navaho ym 1864. Mae'n llawn gwrthdaro rhwng cymeriadau hanesyddol a dychmygol o blith y Navaho, yr Apache a'r Cotiau Glas.

  • Llinyn Trôns gan Bethan Gwanas

    Mae'r nofel hon yn adrodd hanes criw o ddisgyblion un ar bymtheg oed mewn canolfan awyragored. Maen nhw'n gymeriadau gwahanol iawn sy'n dod yn fyw drwy ddefnydd cymariaethau, idiomau a thafodiaith.

  • Y Stafell Ddirgel gan Marion Eames

    Mae'r nofel hon yn ymdrin â themâu megis caredigrwydd, creulondeb a chasineb, colled a theulu. Mae'n adrodd hanes Rowland Ellis, Crynwyr ardal Dolgellau a'u herlidigaeth.

  • Yn y Gwaed gan Geraint V Jones

    Mae'r nofel hon yn adrodd hanes teulu sy'n byw ar fferm fynyddig Arllechwedd a'r cyfrinachau maen nhw am eu cuddio. Mae'n ymdrin â llosgach a dwy thema ganolog y nofel ydy euogrwydd a chyfrinachedd.