Mae hertz (symbol: Hz) neu weithiau yn Gymraeg herts[1] yn uned SI rhyngwladol a ddefnyddir i fesur amledd, ac a ddiffinir fel y nifer o gylchedau (neu nifer y dirgryniadau) mewn eiliad. Mae traw uchel i sain sydd ag amledd uchel. Defnyddir y gair fel enw unigol neu luosog a gellir rhoi rhagddodiad o'i flaen; e.e. "megahertz", "gigahertz".

Hertz
Enghraifft o'r canlynolSystem Ryngwladol o Unedau gydag enw arbennig, uned sy'n deillio o UCUM, unit of frequency, unit of call intensity Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Amrediad arferol y clyw dynol ydyw o 20 Hz i 20,000 Hz ond bod y terfan uchaf yn lleihau gydag oed y person. Gall gi glywed hyd at 40,000 Hz. Mae sain yn teithio ar fuanedd o tua 330 metr yr eiliad, mewn aer; mae golau yn teithio yn llawer cyflymach na hyn (299 792 458 metr yr eiliad wedi'i diffinio). Gellir dweud mai buanedd cyfartaolg ydy'r pellter a deithiwyd wedi'i rannu gyda'r amser a gymerodd.

Mae'r uned wedi'i henwi er anrhydedd y ffisegydd Heinrich Rudolf Hertz (1857–1894) a wnaeth gwaith arloesol ym maes tonnau electromagnetig.

Y ffisegydd Heinrich Hertz

Cyfeiriadau

golygu
  1.  herts. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 7 Mawrth 2018.