Neidio i'r cynnwys

Penegoes

Oddi ar Wicipedia
Dyma ddiwygiad cyfredol y dudalen Penegoes a ddiwygiwyd gan Craigysgafn (sgwrs | cyfraniadau) am 21:48, 8 Gorffennaf 2023. Mae'r URL yn y Bar Lleoliad uwchben yn ddolen barhaol i'r fersiwn hwn o'r dudalen hon.
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Penegoes
Mathpentref Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaCadfarch Edit this on Wikidata
Poblogaeth550 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd52.598 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.5924°N 3.808°W Edit this on Wikidata
Cod postSY20 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRussell George (Ceidwadwyr)
AS/auCraig Williams (Ceidwadwr)
Map

Pentref bychan yng nghymuned Cadfarch, Powys, Cymru, yw Penegoes[1] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif yng ngogledd-orllewin y sir, yn ardal Maldwyn, ar lan Afon Dyfi ac ar briffordd yr A489 tua 2 filltir i'r dwyrain o dref Machynlleth ar y ffordd i Fallwyd. Caiff y gymuned ei enw o Sant Cadfarch, y cysegrir Eglwys Sant Cadfarch ym Mhenegoes iddo.

Rhed ffordd gul i fyny o'r pentref i Aberhosan a chyfeiriad Pumlumon i'r dwyrain. Ceir nifer o goedwigoedd yn y bryniau o gwmpas y pentref.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[3]

Ceir hen blasdy o'r enw Dol Cuog ym Mhenegoes, enw sy'n cadw cof am Abercuawg, lleoliad cerdd enwog sy'n rhan o gylch Canu Llywarch Hen.

Ganed yr arlunydd enwog Richard Wilson (1714-1782) yn rheithordy Penegoes. Roedd ei dad John Wilson yn rheithor y plwyf.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. Gwefan Senedd Cymru
  3. Gwefan Senedd y DU