Neidio i'r cynnwys

Penelin

Oddi ar Wicipedia
Dyma ddiwygiad cyfredol y dudalen Penelin a ddiwygiwyd gan Torvalu4 (sgwrs | cyfraniadau) am 19:19, 5 Tachwedd 2023. Mae'r URL yn y Bar Lleoliad uwchben yn ddolen barhaol i'r fersiwn hwn o'r dudalen hon.
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Y penelin

Mewn anatomeg ddynol, penelin yw'r rhan o gwmpas cymal y penelin (sy'n gymal colfach) yng nghanol y fraich. Mae tair asgwrn yn ffurfio'r cymal hwn: yr uwchelin (hwmerws) yn y bôn braich a'r ddau asgwrn radiws ac wlna yn yr elin.

Olecranon yw'r enw am y rhan o'r benelin sy'n dod yn bigyn pan fo wedi'i blygu i'r eithaf, mae'n ran o'r wlna; gelwir y tu fewn i'r penelin yn antecubital fossa (pant rhagelinol).

Delweddau ychwanegol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am anatomeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.