Neidio i'r cynnwys

Tenis

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 22:48, 2 Medi 2007 gan Adda'r Yw (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Delwedd:BillieJeanKingNationalTennisCenterArthurAsheStadium-2006-cropped.jpg
Stadiwm Arthur Ashe yn Flushing Meadows, Dinas Efrog Newydd

Gêm a chwaraeir rhwng dau chwaraewr (senglau) neu rhwng dau dîm o ddau chwaraewr (parau) yw tenis. Mae chwaraewyr yn defnyddio raced dant i daro pêl rwber wag wedi'i gorchuddio â ffelt dros rwyd i mewn i gwrt y gwrthwynebwr. Datblygodd y gêm yn Ewrop yn hwyr y 19eg ganrif a lledodd yn gyntaf ar draws y byd Saesneg, yn enwedig rhwng y dosbarthau uwch. Mae tenis nawr yn fabolgamp Olympaidd ac yn cael ei chwarae ar bob lefel o gymdeithas, gan bobl o bob oedran, mewn nifer o wledydd y byd. Ac eithrio mabwysiad torri'r ddadl yn y 1970au, mae'r rheolau heb newid ers y 1890au. Yn ogystal â'i filiynau o chwaraewyr, mae miliynau o bobl yn dilyn tenis fel mabolgamp gyfundrefnol, yn enwedig pedwar twrnamaint y Gamp Lawn: Pencampwriaeth Agored Awstralia, Pencampwriaeth Agored Ffrainc, Wimbledon, a Phencampwriaeth Agored yr Unol Daleithiau.