Lester B. Pearson
Y Gwir Anrhydeddus Lester Bowles Pearson PC OM CC OBE | |
![]() Lester B. Pearson, 1944 | |
14eg Prif Weinidog Canada|Brif Weinidog Canada
| |
Cyfnod yn y swydd 22 Ebrill, 1963 – 20 Ebrill, 1968 | |
Teyrn | Elisabeth II |
---|---|
Rhagflaenydd | John Diefenbaker |
Olynydd | Pierre Trudeau |
Geni | 23 Ebrill 1897 Newtonbrook, Toronto, Ontario |
Marw | 27 Rhagfyr 1972 Ottawa, Ontario | (75 oed)
Plaid wleidyddol | Rhyddfrydol |
Priod | Maryon Pearson |
Plant | Geoffrey, Patricia |
Alma mater | MA (Oxon), BA (Oxon), BA (Tor) |
Galwedigaeth | Milwr, diplomydd, academydd |
Crefydd | Eglwys Unedig Canada |
Gwladweinydd, diplomydd a gwleidydd Canadaidd a enillodd Gwobr Heddwch Nobel yn 1957 oedd Lester Bowles "Mike" Pearson PC OM CC OBE (23 Ebrill, 1897 – 27 Rhagfyr, 1972). Ef oedd pedwaredd Brif Weinidog ar ddeg Canada o 22 Ebrill, 1963 hyd 20 Ebrill, 1968 fel pennaeth dwy lywodraeth leiafrifol olynol yn dilyn etholiadau yn 1963 a 1965.
Yn ystod ei brifweinidogaeth, cylfwynodd llywodraeth leiafrifol Pearson gofal iechyd i bawb, benthyciadau ariannol i fyfyrwyr, Cynllun Pensiwn Canada, Urdd Canada, y faner Ganadaidd gyfredol, a'r Comisiwn Brenhinol dros Ddwyieithrwydd a Deuddiwylliant. Oherwydd ei gampau, yn ogystal â'i waith arloesol yn y Cenhedloedd Unedig ac mewn diplomyddiaeth ryngwladol, ystyrid Pearson yn aml fel un o Ganadiaid mwyaf dylanwadol yr ugeinfed ganrif.