Tŷ'r Cyffredin (Y Deyrnas Unedig)

Mae AS (DU) yn cyfeirio yma. Am ystyron eraill, gweler AS (gwahaniaethu)

Siambr isaf Senedd y Deyrnas Unedig yw Tŷ'r Cyffredin. Mae'n cynnwys 650 o aelodau (aelodau seneddol neu ASau), wedi'u hethol drwy system 'cyntaf i'r felin' bob pum mlynedd neu yn gynharach os datodir y tŷ gan y prif weinidog ynghynt na hynny. Lindsay Hoyle yw'r Llefarydd presennol.

Tŷ'r Cyffredin Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon
59ain Senedd y DU
Coat of arms or logo
Gwybodaeth gyffredinol
MathTŷ Isaf Senedd y Deyrnas Unedig
Arweinyddiaeth
Llefarydd y TŷGwag
Prif WeinidogSyr Keir Starmer, Llafur
ers 5 Gorffennaf 2024
Arweinydd yr WrthblaidRishi Sunak, Ceidwadwyr
ers 5 Gorffennaf 2024
Cyfansoddiad
Aelodau650
House of Commons UK.svg
Grwpiau gwleidyddolLlywodraeth y DU

Yr Wrthblaid

Eraill

Ymatalwyr

Llefarydd

Hyd tymorHyd at 5 mlynedd
Etholiadau
System bleidleisioY cyntaf i'r felin
Etholiad diwethaf4 Gorffennaf 2024
Etholiad nesafDim hwyrach na Awst 2029
Newid ffiniauY Comisiwn Ffiniau
Man cyfarfod
House of Commons 2010.jpg
Siambr Tŷ'r Cyffredin
Palas San Steffan
Dinas Westminster
Llundain
Y Deyrnas Unedig
Gwefan
Tŷ'r Cyffredin
Seddi Tŷ'r Cyffredin

Sefydlwyd Tŷ Cyffredin Lloegr rywbryd yn y 14g gan newid ei henw i 'Dŷ' Cyffredin Prydain Fawr' wedi uno'r Alban a Lloegr yn 1707, a newid unwaith eto yn y 19g i 'Tŷ'r Cyffredin Prydain Fawr ac Iwerddon' wedi'r Ddeddf Uno gydag Iwerddon. Bathwyd y term presennol yn 1922.

Dan Ddeddf 1911, lleihawyd grym Tŷ'r Arglwyddi i wrthod penderfyniadau Tŷ'r Cyffredin. Mae'r Llywodraeth yn swyddogol yn ddarostyngedig i Dŷ'r Arglwyddi - o ran cyfrifoldeb.

Erys y Prif Weinidog yn ei swydd tra bod ganddo/i gefnogaeth mwyafrif aelodau Tŷ'r Cyffredin. Rhoddir sêl bendith ar y Prif Weinidogaeth gan Frenhines y DU; mae'r person hwn fel arfer yn arweinydd y blaid fwyaf, ond nid o angenrheidrwydd. Gelwir arweinydd yr ail blaid fwyaf yn 'Arweinydd Gwrthblaid Ei Mawrhydi'. Ers 1963, drwy gonfensiwn, mae'r Prif Weinidog yn aelod o Dŷ'r Cyffredin yn hytrach na Thŷ'r Arglwyddi.

Daw'r enw 'Cyffredin' (neu 'commons') o'r gair Saesneg communes, sef gwahanol 'gymunedau' oddi fewn i'r Tŷ.[1]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Pollard, A.F. (1920). The Evolution of Parliament. Longmans. tt. 107–08.