Neidio i'r cynnwys

Neo-ryddfrydiaeth

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:18, 18 Gorffennaf 2015 gan Huw P (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)

Neo-ryddfrydiaeth

Mae Neo-ryddfrydiaeth yn theori sydd yn dadlau bod yr economi'n gweithio'n fwy effeithlon os bydd marchnad cwbl rydd heb ymyrraeth neu gyfyngiadau gan y llywodraeth neu fonopoli . Yn ôl cefnogwyr y theori bydd cystadleuaeth rydd rhwng gwerthwyr gwasanaethau a chynnyrch yn dod a'r ddarpariaeth gorau i'r cyhoedd a manteision mwyaf a ran graddfa cynhyrchiant, codi safonau byw, cyfleon, rhyddid, symudiad, tyfiant a datblygiadau i'r dyfodol.

Y Term Neo-ryddfrydiaeth

Mae'r term Neo-ryddfrydiaeth (Saesneg: Neoliberalism a Neo Libralism) yn ddisgrifiad ar gyfer defnydd newydd (Lladin: neo- newydd) neu ddiweddariad o syniadau'r 19eg ganrif yngl?n ag economeg laisse-faire (laisse-faire = 'gadael llonydd' yn Ffrangeg). Hynny yw gadael llonydd i'r farchnad rydd, heb reolaeth neu gyfyngiadau. . [1] and critics[2] Mae Neo-ryddfrydiaeth yn cael ei gysylltu'n bennaf gyda pholisïau economaidd radicalaidd a chyflwynwyd gan Margaret Thatcher a Ronald Reagan yn y 1980au, preifateiddio, dadreoli, toriadau yng ngwariant y llywodraeth, traethi is ar gyfer y cyfoethog a llymdra (Saesneg: austerity) a thorri budd-daliadau i'r dlawd.

Portread yr economegydd Milton Friedman

Erbyn degawd y 2000 daeth Neo-ryddfrydiaeth i fod prif ideoleg economaidd y byd gan ddisodli syniadau a theorïau economaidd eraill, Mae rhai yn cyfeirio at y cyfnod ers troad y mileniwm fel yr oes neo-ryddfrydol. [3]

Datblygodd theori Neo-ryddfrydiaeth ymhlith ysgolheigion Ewropeaidd yn y 1930au fel 'trydedd ffordd' rhwng dau brif theori economaidd y cyfnod rhyddfrydiaeth glasurol a chynllunio sosialaidd er mwyn osgoi ail adrodd problemau economaidd difrifol y cyfnod [4]

Ail gododd y term yn y 1980au i ddisgrifio polisïau economaidd yr unben asgell-dde Augusto Pinochet yn Chile o dal ddylanwad syniadau'r economegwyr Friedrich Hayek a Milton Friedman.[5]  

Beirniadaeth o Neo-ryddfrydiaeth

2010-2011 protesiadau yn Groeg yn erbyn polisi'r llywodraeth i dorri gwariant cyhoeddus

Mae beirniadaeth yr ideoleg yn cynnwys:[6] [7][8][9]

  • Bod diffyg cyfle i reoli'r farchnad yn tynnu grym o bobl rhag siapio'r eu bywydau a'r byd o'u hamgylch er gwell.
  • Bydd trachwant dynol yn arwain at y cyfoethog yn mynd yn fwy gyfoethog ar draul pawb arall.
  • Heb reolaeth bydd trachwant dynol yn arwain at ecsploetio, anghyfiawnder a manteisio ar rhai rhy wan i'w wrthwynebu.
  • Yn aml dim ond pobl gyda digon o arian neu grwpiau penodol sydd yn gallu manteisio ar y farchnad tra bod darpariaeth a'r gymdeithas gyfan yn anfanteisiol wrth geisio gwneud yr elw mwyaf posibl. Er enghraifft mewn system iechyd preifat ble mae'r unigolion yn gorfod talu cwmni preifat am yswiriant ar gyfer costau triniaethau - mae'r cwmni yswiriant yn debygol o wrthod yswirio pobl hen neu bobl sâl iawn am eu bod yn debygol o angen triniaethau drud. Mae'r cwmni yswiriant ond yn debygol o gytuno yswirio pobl ifanc, gweddol iach er mwyn cadw eu costau'n isel.
  • Bod diffyg rheolaeth yn arwain at is-ddosbarth o bobl heb ddigon o arian i fanteisio ar ddarpariaeth y farchnad ar gyfer nwyddau, addysg, iechyd ac yn y blaen.
  • Mae llwyddiant busnes a llywodraeth i dorri eu costau trwy dalu cyflogau mor isel â phosibl yn arwain at eu gweithwyr yn methu fforddio prynu cynnyrch neu dalu trethi ac felly yn arwain at broblemau i fusnes a'r llywodraeth. [10]
  • Yn annemocrataidd - bod heb reolaeth bydd barn ac anghenion y mwyafrif yn cael eu diystyri gan gwmnïau yn ymdrechion parhaus i wneud yr elw mwyaf ar gyfer eu cyfranddalwyr neu berchnogion.
  • Yn newidiol i'r hinsawdd, diwylliannau a diogelwch bobl - heb reolaeth bydd cwmnïau'n ecsploetio adnoddau'r ddaear a phobl heb boeni am yr effaith yn eu hymdrechion parhaus i wneud yr elw mwyaf.

Diffiniad manwl

Yn yr adroddiad Cyffes Accra Cyngor Cyffredinol Cynghrair Eglwysi Diwygiedig y Byd diffinir neo-ryddfrydiaeth fel y ganlyn:

Yn ei gweithgaredd ryngwladol o dra-arglwyddiaethu, mae neo-ryddfrydiaeth yn cyfeirio at athroniaeth wleidyddol-economaidd sy’n dad-bwysleisio neu’n gwrthod ymyrraeth llywodraeth neu arall yn yr economi; bydd yn caniatau i’r farchnad weithredu heb gyfyngiadau nag amddiffyniadau. Yng nghyd-destun yr UD a Chanada, mae economeg neo-ryddfrydol wedi’i phlethu’n fwy gyda syniadau gwleidyddol ceidwadol a neo-geidwadol na rhai rhyddfrydol. Mae economeg neo-ryddfrydol yn canol-bwyntio ar ddulliau marchnad rydd, llai o gyfyngiadau ar weithrediadau busnes a hawliau eiddo, yn hytrach na hawliau dynol. Mae’n hybu’r farchnad trwy fod yn rym sylfaenol gweithgaredd economaidd dynol, gan bwysleisio cystadleuaeth a thwf a chynnal hunan-fudd unigolion dros fudd pawb. Mae polisïau economaidd neo-ryddfrydol yn cynnwys preifateiddio gwasanaethau fel addysg, d?r a gofal iechyd; dadreoleiddio sy’n aml yn esgor ar lai o hawliau ac amddiffyniadau i weithwyr a’r amgylchedd; gostyngiadau mewn gwariant llywodraeth ar raglenni cymdeithasol, fel addysg, ac erydiadau yn y rhwyd ddiogelwch ar gyfer y tlawd; llif rhydd buddsoddiadau, cynnyrch a swyddi (ond yn nodweddiadol, dim pobl) ar draws ffiniau cenedlaethol heb gyfyngiadau a masnachu cynyddol.[11]

Cyfeiriadau

  1. Taylor C. Boas, Jordan Gans-Morse (June 2009). "Neoliberalism: From New Liberal Philosophy to Anti-Liberal Slogan". Studies in Comparative International Development 44 (2): 137–161. doi:10.1007/s12116-009-9040-5. ""Neoliberalism has rapidly become an academic catchphrase. From only a handful of mentions in the 1980s, use of the term has exploded during the past two decades, appearing in nearly 1,000 academic articles annually between 2002 and 2005. Neoliberalism is now a predominant concept in scholarly writing on development and political economy, far outpacing related terms such as monetarism, neoconservatism, the Washington Consensus, and even market reform.""
  2. Noel Castree (2013). A Dictionary of Human Geography. Oxford University Press. t. 339. ‘Neoliberalism’ is very much a critics term: it is virtually never used by those whom the critics describe as neoliberals.
  3. http://folk.uio.no/daget/neoliberalism.pdf , Dag Einar Thorsen & Amund Lie Department of Political Science University of Oslo
  4. Philip Mirowski , Dieter Plehwe, The road from Mont Pèlerin: the making of the neoliberal thought collective, Harvard University Press, 2009, ISBN 0-674-03318-3 , p. 14-15: "An understanding of neoliberalism needs to take into account its dynamic character in confronting both socialist planning philosophies and classical lassiez-faire liberalism, rather than searching for timeless (essentialist) content."
  5. Philip Mirowski, Dieter Plehwe, The road from Mont Pèlerin: the making of the neoliberal thought collective, Harvard University Press, 2009, ISBN 0-674-03318-3 , p. 12–13, 161
  6. Baker, Dean. 2006. "Increasing Inequality in the United States.[3]" Post-autistic Economics Review 40.
  7. http://www.theguardian.com/commentisfree/2015/jan/25/greece-shows-what-can-happen-when-young-revolt-against-corrupt-elites
  8. Peet, Richard. "Neoliberalism and Nature: The Case of the WTO". Annals of the American Academy of Political and Social Science, Vol 590 November 2003
  9. Peet, Richard. "Neoliberalism and Nature: The Case of the WTO". Annals of the American Academy of Political and Social Science, Vol 590 November 2003
  10. <http://www.channel4.com/news/low-wages-money-earnings-record-employment-pay>
  11. http://www.ebcpcw.cymru/userfiles/files/resources_C/Eg_Cymd/AccraCymraeg.pdf