Neidio i'r cynnwys

Erin Roberts

Oddi ar Wicipedia
Erin Roberts
Ganwyd1975 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyflwynydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Cyflwynwraig tywydd Cymreig yw Erin Roberts (ganwyd 1975),[1] sy'n cyflwyno ar raglen Newyddion ar S4C.

Daw Roberts yn wreiddiol o Bontllyfni, Gwynedd. Mynychodd Ysgol Syr Hugh Owen cyn astudio ddaearyddiaeth ym Mhrifysgol Lerpwl. Bu gynt yn athrawes daearyddiaeth yn Ysgol Cwm Rhymni ac Ysgol Gyfun Rhydfelen.[2] Cafodd y swydd o fod yn gyflwynwraig tywydd wedi ymddeoliad Jenny Ogwen, gan ymddangos ar yr awyr am y tro cyntaf ar 9 Awst 2004.[1][3]

Mae hefyd yn chwaer i un o brif angorau'r rhaglen Newyddion, Nest Williams.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2  Erin joins S4C weather team (4 Awst 2004).
  2.  Tywydd. S4C.
  3.  Rhagolwg braf i Erin. Newyddion BBC Cymru (5 Awst 2004).