Gorsaf reilffordd
Gwedd
![](https://cdn.statically.io/img/upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/fd/Lancaster_Station_-_geograph.org.uk_-_646306.jpg/220px-Lancaster_Station_-_geograph.org.uk_-_646306.jpg)
Cyfleuster rheilffordd yw gorsaf reilffordd (neu gorsaf drenau), lle mae trenau'n stopio'n gyson i lwytho a dadlwytho teithwyr neu lwythi. Fel arfer, mae platfform wrth ymyl y cledrau ac adeilad yn darparu gwasanaethau megis darparu tocynnau ac ystafelloedd aros. Gall fod cysylltiadau ar gael rhwng llinellau sy'n croesi ei gilydd, neu modd arall o gludiant megis bysiau.