Haydn Morgan
Haydn Morgan | |
---|---|
Ganwyd | 30 Gorffennaf 1936 ![]() Cymru ![]() |
Bu farw | 23 Gorffennaf 2018 ![]() Cymru ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb ![]() |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Y Barbariaid, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Abertyleri, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig ![]() |
Safle | blaenasgellwr ![]() |
Gwlad chwaraeon | Cymru ![]() |
Roedd Haydn Morgan (30 Gorffennaf 1936 – 24 Gorffennaf 2018, yn chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymreig a gynrychiolodd tîm genedlaethol Cymru 27 gwaith a thîm y Llewod ar deithiau i Seland Newydd a De Affrica.[1]
Cefndir[golygu | golygu cod]
Ganwyd Morgan yn Oakdale, Caerffili yn blentyn i Harold ac Eunice Morgan. Roedd ei dad yn löwr yng nglofa'r Oakdale. Cafodd ei addysgu yn ysgol ramadeg Pontnewydd ar Wysg. Bu'n chware fel canolwr i dîm yr ysgol.
Gyrfa[golygu | golygu cod]
Cyflawnodd Morgan cyfnod o Wasanaeth Cenedlaethol (gwasanaeth milwrol gorfodol) gyda Chatrawd y Peirianwyr Trydanol a Mecanyddol Brenhinol. Bu'n chware rygbi i dîm y Byddin Prydeinig fel blaen asgellwr.
Gan ei fod yn chware yn ystod cyfnod pan fu chware rygbi clwb a rhyngwladol i fod yn gamp cwbl amatur, bu'n ennill ei fywoliaeth fel gwerthwr ceir.
Wedi i'w yrfa rygbi ryngwladol ddod i ben, aeth Morgan i fyw i Dde Affrica, lle bu'n chwarae dros clybiau'r Wanderers yn Johannesburg a Transvaal B. Yn Ne Affrica bu'n ennill ei damaid drwy gwerthu ceir i gwmni Nissan cyn sefydlu ei fusnes ei hun a oedd yn cynhyrchu blociau concrit.
Gyrfa rygbi[golygu | golygu cod]
Clwb[golygu | golygu cod]
Bu Morgan yn chwarae, yn bennaf, ar gyfer Clwb Rygbi Abertyleri. Mae rhai wedi awgrymu bod ei ffyddlondeb i Abertyleri wedi cael effaith ar ei yrfa ryngwladol, gan ei fod wedi aros yn driw i'r tîm yn hytrach na symud i dîm fwy ffasiynol.[2]
Rhyngwladol[golygu | golygu cod]
Chwaraeodd 27 gêm ryngwladol dros Gymru:
Lloegr 1958, 1960, 1961, 1962, 1965, 1966
Ffrainc 1958, 1959, 1961, 1962, 1963, 1965, 1966
Iwerddon 1958, 1959, 1961, 1962, 1963, 1965, 1966
yr Alban 1958, 1961, 1962, 1963, 1965, 1966
Seland Newydd 1959
Awstralia 1966
Teulu[golygu | golygu cod]
Cafodd Hayden a Betty, ei wraig dau fab.
Marwolaeth[golygu | golygu cod]
Bu farw yn Nhrefynwy ychydig yn brin o'i benblwydd yn 82 mlwydd oed.
LLyfryddiaeth[golygu | golygu cod]
- Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Cardiff: University of Wales Press. ISBN 0-7083-0766-3.
- Thomas, Wayne (1979). A Century of Welsh Rugby Players. Ansells Ltd.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Telegraph Obituaries 10 Awst 2018 Haydn Morgan adalwyd 2 Ionawr 2019
- ↑ Wales Online One of Wales' greatest flankers, who refused to leave his local team, has passed away adalwyd 2 Ionawr 2019