Holodomor
Delwedd:HolodomorVyizdValky.jpg, Alexander Wienerberger Holodomor18.jpg, HolodomorKharkiv 1933 Wienerberger.jpg | |
Enghraifft o'r canlynol | Newyn, communist crime, mass killings under communist regimes, hil-laddiad ![]() |
---|---|
Lladdwyd | 3,500,000, 4,500,000, 14,500,000 ![]() |
Rhan o | Soviet famine of 1932–1933, Holodomors in Ukraine ![]() |
Dechreuwyd | 1932 ![]() |
Daeth i ben | 1933 ![]() |
Lleoliad | Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Wcráin ![]() |
![]() |
![](https://cdn.statically.io/img/upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/56/%D2%90%D0%B0%D1%80%D0%B5%D1%82_%D0%94%D0%B6%D0%BE%D1%83%D0%BD%D1%81._%D0%93%D0%BE%D0%BB%D0%BE%D0%B4%D0%BE%D0%BC%D0%BE%D1%80.jpg/300px-%D2%90%D0%B0%D1%80%D0%B5%D1%82_%D0%94%D0%B6%D0%BE%D1%83%D0%BD%D1%81._%D0%93%D0%BE%D0%BB%D0%BE%D0%B4%D0%BE%D0%BC%D0%BE%D1%80.jpg)
![](https://cdn.statically.io/img/upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/e/e7/Holodomor_World_Recognition.svg/300px-Holodomor_World_Recognition.svg.png)
Yr Holodomor (Wcreineg: Голодомор) yw'r enw a roddir ar y newyn yn Wcráin, oedd yr adeg honno yn rhan o'r Undeb Sofietaidd, yn 1932-1933. Roedd yn rhan o newyn ar draws ardal ehangach yn yr Undeb Sofietaidd. Mae amcangyfrifon o'r nifer o bobl a fu farw yn y newyn yn amrywio o 2.2 miliwn hyd 3-3.5 miliwn, gyda'r hanesydd Seising Robert Service yn awgrymu ffigwr o 14 miliwn.
Ceir gwahaniaeth barn am achos y newyn. Cred rhai ei fod yn ganlyniad anfwriadol newidiadau economaidd radicalaidd yn yr Undeb Sofietaidd, tra cred eraill ei fod wedi ei greu yn fwriadol, i ddinistrio cenedlaetholdeb Wcranaidd.[angen ffynhonnell]
Rhoddwyd y newyddion am y newyn i'r gorllewin yn adroddiadau'r newyddiadurwr Cymreig Gareth Jones. Bu dadl ffyrnig, gyda llawer o gefnogwyr yr Undeb Sofietaidd yn y gorllewin yn gwadu gwirionedd ei adroddiadau.