Llyfr Aneirin
![](https://cdn.statically.io/img/upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/b2/The_Book_of_Aneirin.pdf/page1-220px-The_Book_of_Aneirin.pdf.jpg)
Llyfr Aneirin yw un o'r llawysgrifau cynharaf un yn y Gymraeg. Cafodd ei llunio tua'r flwyddyn 1265, a dim ond Llyfr Du Caerfyrddin sydd fymryn yn gynharach o blith y llawysgrifau Cymraeg (ceir rhai llawysgrifau Cymreig a ysgrifenwyd yn Lladin sy'n gynharach na'r ddau lyfr hyn). Mae'n cynnwys testun Y Gododdin gan Aneirin a sawl cerdd arall sy'n perthyn i'r 6ed ganrif efallai, er yr anghytunir am hynny.
Llawysgrif femrwn 6¾ x 5 modfedd yw hi, gyda chyfamswm o 42 tudalen ffolio, 38 ohonynt yn dwyn llawysgrifen. Ceir dwy law ynddi, bron yn gyfoes, ac mae o leiaf tri o dudalennau ffolio yn eisiau ar y diwedd. Rhwymwyd y cyfan mewn lledr croen llo du rywbryd yn ddiweddarach yn yr Oesoedd Canol.
Ceir ychwaneg o wybodaeth am Lyfr Aeirin ar Wicipedia.